Neidiwch at y cynnwys (ewch heibio’r brif ddewislen)

Neidiwch at y ddewislen

Polisi Preifatrwydd

Datganiad o fwriad

Er mwyn medru cael mynediad i'r gwasanaethau a ddarparir gennym ac er mwyn rhoi atborth i ni, gofynnir i chi gofnodi gwybodaeth bersonol amdanoch chi eich hunan (e.e. enw, cyfeiriad a rhif teleffon). Mae'r gwasanaethau a ddarparir yn cynnwys gwneud cais am drwydded, gwybodaeth amgylcheddol, darparu atborth ac ymgynghoriadau.

Os byddwch yn rhoi eich manylion, bydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn gallu darparu'r gwasanaethau i chi yr ydych yn eu dethol. Pryd bynnag y byddwch yn rhoi gwybodaeth bersonol, yr ydym yn ymrwymo i drin yr wybodaeth honno yn unol â'r polisi hwn.

Cofnodi gwybodaeth bersonol

Pan fyddwch yn darparu gwybodaeth bersonol i Asiantaeth yr Amgylchedd mae gennym ymrwymiadau cyfreithiol tuag atoch o ran y dull y byddwn yn ymdrin â'r wybodaeth honno. Rhaid i ni brosesu gwybodaeth o fewn fframwaith ein dyletswyddau a'n grymoedd statudol ac ar ben hyn rhaid i ni gasglu'r wybodaeth mewn dull teg. Bydd yr hysbysiadau unigol ar dudalennau gwe penodol, ar ffurflenni neu a roddir i chi yn arbennig yn rhoi gwybod i chi sut byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ph'un ai y byddwn yn rhoi'r wybodaeth i unrhyw un arall.

Defnyddio a datgelu gwybodaeth bersonol

Defnyddiwn wybodaeth bersonol er mwyn ymdrin â cheisiadau am drwyddedau, er mwyn monitro sut y cydymffurfir ag amodau'r drwydded/caniatâd/cofrestriad, er mwyn prosesu ceisiadau adnewyddu, atal ac ymchwilio i dor-cyfraith amgylcheddol, ar gyfer cynnal y gofrestr(cofrestrau) cyhoeddus perthnasol, ymdrin â chwynion, ymgynghoriadau ac ar gyfer darparu gwasanaethau a llenyddiaeth amgylcheddol.

Gallwn ddatgelu data personol i'n hymgynghorwyr, asiantiaid a chynrychiolwyr er mwyn gwneud y pethau hyn ar ein rhan. Yn ogystal, gallwn ddatgelu gwybodaeth i gyrff cyhoeddus eraill a sefydliadau eraill (e.e. yr Adran Weithredol Iechyd a Diogelwch, y Gwasanaethau Brys, Defra) ar gyfer ymgynghori ynghylch pynciau amgylcheddol.

Gall gwybodaeth bersonol y mae'n ofynnol i ni ei rhoi ar ein cofrestrau cyhoeddus gael ei thrwyddedu i'w hailddefnyddio gan drydydd pleidiau. Gall gwybodaeth bersonol nad yw ar gofrestr gyhoeddus gael ei thrwyddedu yn ogystal i drydydd pleidiau, ond gwneir hyn yn unig lle mae Deddf Diogelu Data 1998 yn caniatáu hynny. Os caiff gwybodaeth bersonol nad yw ar y gofrestr gyhoeddus ei thrwyddedu at bwrpasau marchnata, bydd hyn yn unig ar gyfer mathau cyfyngedig iawn o farchnata a lle'r ydych chi wedi datgan eich bod yn dymuno i hyn ddigwydd. Gall gwybodaeth bersonol gael ei rhannu yn ogystal gyda phobl ar wahân i'r rheiny a grybwyllir uchod, lle y mae'n ofynnol i ni dan y gyfraith i ddatgelu'r wybodaeth.

Byddwn yn cadw data personol ar ein systemau am gyfnod cyfyngedig iawn. Gan mwyaf, gosodir y cyfnod hwn fel mater o bolisi mewnol a bydd yr amser byrraf sy'n angenrheidiol er mwyn i ni ei ddefnyddio.

Mynediad i'ch gwybodaeth bersonol

Mae gennych hawl i ofyn am gopi o'r wybodaeth bersonol y mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn dal yn eich cylch, ac i gael unrhyw anghywirdeb yn yr wybodaeth bersonol honno wedi'i gywiro. Byddwch gystal â chyfeirio ymholiadau i'r Rheolwr Diogelu Data Cenedlaethol neu ddefnyddio'r ffurflen ymholi ar-lein.


Cliciwch yma er mwyn gofyn am gopi o'ch gwybodaeth bersonol.

Marchnata uniongyrchol

O bryd i'w gilydd gallwn ddymuno darparu manylion i chi ynghylch gwasanaethau neu lenyddiaeth arall am faterion amgylcheddol sydd ar gael oddi wrth Asiantaeth yr Amgylchedd a fedrent fod o ddiddordeb i chi. Gallwn hefyd gynnig y cyfle i chi fod yn gyfrannog yn y broses o ymgynghori ar gyfer dulliau, strategaeth, gwaith neu gynlluniau newydd a gynigir gan Asiantaeth yr Amgylchedd.

Defnyddwyr dan 18 oed

Os ydych o dan 18 oed, byddwch gystal â sicrhau eich bod yn caffael caniatâd eich rhiant/gwarcheidwad o flaen llaw pryd bynnag byddwch yn darparu gwybodaeth bersonol i Asiantaeth yr Amgylchedd ar ei gwefan neu drwy ddulliau eraill.

Diogelwch gwybodaeth bersonol

Yr ydym yn rhannu'r pryder cyffredinol ynghylch diogelwch a sicrwydd gwybodaeth bersonol ar y Rhyngrwyd ac yr ydym wedi gweithredu gweithdrefnau er mwyn hyrwyddo diogelwch a sicrwydd yr wybodaeth a gasglwn ar-lein. Yr ydym wedi rhoi dulliau rheoli o safon diwydiant ar waith er mwyn ceisio sicrhau cyfrinachedd; fodd bynnag ni ellir gwarantu fod unrhyw drosglwyddo data dros y Rhyngrwyd yn gyfan gwbl ddiogel. Oherwydd hyn, ni allwn warantu na chaiff gwybodaeth bersonol fyth ei datgelu mewn dulliau na ddisgrifir mohonynt yn amgen yn y Polisi Preifatrwydd hwn.

'Cookies'

Ffeiliau testun yw 'cookies', sy'n dweud wrth ein gweinydd sut i adnabod eich cyfrifiadur. Nid yw 'cookies' eu hunain yn adnabod y defnyddiwr ei hun, dim ond y cyfrifiadur sy'n cael ei ddefnyddio.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn defnyddio dau 'cookie' gwahanol er mwyn nodi gosodiadau iaith dewisol a phan ddewisir testun yn unig ar y wefan. Mae'r adran Dydd Amgylchedd y Byd yn defnyddio 'cookie' ar gyfer personoli ac mae'r adran Hwyl a Gemau yn defnyddio 'cookie' er mwyn cadw gosodiadau'r defnyddiwr ar gyfer y gêm Changing Blooms.

Byddwn hefyd yn defnydido asiant allanol er mwyn dadansoddi ymddygiad defnyddio ar ein rhan. Er mwyn eu galluogi i wneud hyn, defnyddiwn 'cookie sy'n unigryw i'r ymwelydd' er mwyn caffael gwybodaeth ynghylch sut byddwch yn defnyddio ein gwefan, fel p'un ai ydych wedi ymweld â'n gwefan fwy nag unwaith a sut y bu ichi ein canfod ni.

Mae'r wybodaeth hon yn ein caniatáu i deilwra ein gwefan yn fwy effeithiol er mwyn ei gwneud yn haws i'w defnyddio. Gellir canfod eu polisi preifatrwydd hwy yma: Nielsen//Netratings Privacy Policy

Trwy newid dewisiadau porwr, gallwch dewis derbyn pob 'cookie', derbyn hysbysiad o bryd y gosodir 'cookie', neu wrthod pob 'cookie'. Gallwch ganfod rhagor o wybodaeth ynghylch dileu 'cookies' yn:http://www.aboutcookies.org/Default.aspx?page=2



Back to top