Neidiwch at y cynnwys (ewch heibio’r brif ddewislen)

Neidiwch at y ddewislen

Gwaredu gwastraff

1. Arolwg

Wheels and metal waste

Rhaid i chi beidio â chladdu gwastraff mewn dymp neu domen fferm oni bai fod gennych ganiatâd. Mae dymp neu domen fferm yn golygu unrhyw ardal ar eich fferm lle'r ydych wedi gwaredu eich gwastraff, ee gadael eich gwastraff mewn hen chwarel/ twll yn y ddaear neu hyd yn oed gadael hen deiars mewn coetir.

Rhaid i chi beidio â llosgi gwastraff fferm nad yw'n naturiol, fel plastig a theiars, yn yr awyr agored. Mae hyn yn achosi llygredd a gallant fod yn niweidiol i bobl sy'n anadlu'r mygdarthau.

Os nad allwch ailddefnyddio neu adennill gwastraff a gynhyrchir ar eich fferm, bydd yn rhaid i chi ei waredu mewn safle a drwyddedwyd yn addas.

Ar ôl i chi gwblhau'r adran hon byddwch yn gwybod:

  • sut i ddod o hyd i safle gwastraff lle medrwch waredu eich gwastraff
  • beth ddylech ei wneud os ydych yn dymuno mynd â'r gwastraff yno eich hunan
  • pa driniaeth mae eich gwastraff ei angen cyn y caiff ei anfon i safle tirlenwi
  • pa waith papur bydd arnoch ei angen ar gyfer gwaredu eich gwastraff.

Dylai gymryd llai na 15 munud i chi gwblhau'r adran hon.

Faint wyddoch chi am waredu gwastraff? Ewch yn syth at y cwis

 

 


Pethau i'w gwneud ac i beidio â'u gwneud

Tyres

Ymwelwch yr adran am y 10 awgrym a gwaharddiad gorau


Back to top