Storio gwastraff
1. Arolwg

Fel rheol gallwch storio eich gwastraff eich hun ar eich safle eich hun heb gofrestru gydag Asiantaeth yr Amgylchedd neu gaffael trwydded.
Rhaid i chi storio eich gwastraff yn ddiogel. Er enghraifft, rhaid i chi beidio â chaniatáu i hylifau ddiferu na phlastigau i chwythu ymaith. Hefyd, sicrhewch nad all aelodau o'r cyhoedd fynd at y gwastraff.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r adran hon byddwch yn gwybod:
- faint o wastraff y gallwch ei storio
- am ba hyd y gallwch storio mathau gwahanol o wastraff
- sut i storio eich gwastraff er mwyn osgoi llygredd.
Dylai gymryd llai na 10 munud i chi gwblhau'r adran hon.
Faint wyddoch chi ynghylch storio gwastraff? Ewch yn syth i'r cwis
Adran nesaf: Am ba hyd fedrwch chi storio eich gwastraff?

