Beth yw gwastraff amaethyddol?
4. Beth yw'r dyletswydd o ofal?

Os oes gennych wastraff, mae gennych ddyletswydd o ofal cyfreithiol i sicrhau eich bod yn gofalu amdano ac nad yw eich gwastraff yn achosi unrhyw broblemau amgylcheddol neu orffen trwy gael ei dipio'n anghyfreithlon. Er mwyn cydymffurfio â'r dyletswydd o ofal rhaid i chi:
- Sicrhau fod eich gwastraff yn ddiogel. Sicrhewch fod cynhwyswyr yn addas at y pwrpas ac na fydd y gwastraff yn diferu na'n chwythu ymaith.
- Pan fyddwch yn trosglwyddo eich gwastraff i rywun arall, sicrhewch eu bod wedi'i hawdurdodi i'w gymryd.
- Pan fyddwch yn trosglwyddo eich gwastraff i rywun arall, rhaid i chi gwblhau a throsglwyddo nodyn trosglwyddo gwastraff a chadw copi am ddwy flynedd.
Gallwch ddarganfod mwy o fanylion ynghylch y dyletswydd o ofal ym mhob un o'r modiwlau dysgu.
Adran nesaf: Deg awgrym trin gwastraff